CPG ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol a Chyfarfod Rhithwir Cydfuddiannol, 26/10/22

Yn bresennol:

Magi Mattinson - Tîm Digwyddiadau Cwmpas

Dan Roberts - Tîm Digwyddiadau Cwmpas (Ysgrifennydd)

Hannah Morris (Siaradwr)

Len Casley

Esther Barnes

Christopher Thomas

Caroline Anne Owen

Kat Watkins

Barbara Sonnex

Robin Lewis

Suzette Phillips

Linda Joyce -Jones

John Meredith

Karen Taylor

Sue Rivers

Tracey Blockwell

Philip M Watson

Derek Walker

Geraint Jones

Huw

Bill Hudson

Cherrie Bija

Canolfan Gymunedol Penderyn

Steffan Davies

Karen Bellis

Sandy Highfield

Susanne Allcroft

Gerald O’Brien

Jean Campbell Leith

William E Wilkins

Paula Lunnon

Adji Fabrice Gnadja

Llyr ap Rhisiart

Nova Barton

Rhys Jones 

Lisa Rawlings

Luke Fletcher (aelod o'r grŵp)

Theresa Parsell

Kirsty Davies

Deio Jones

Robert Muza

Sujatha Thaladi

Chris Matthews

Jason Edwards

Annabel Pidgeon

Helen Joy

Sarah Hughes

Pat Powell

Bethan Sayed

San

Louise Gray

David Boyce

Sian Eagar

Jeremy Wadia

Cronfa Fferm Wynt Kate Pen y Cymoedd

Babs Lewis

Tracy Thomson

Carl Postle

Chris Bolton

Judith Cook

Natalie Flowers

Rob Keegan

Sally Meyrick

Barbara Kerridge

Leanne Roberts

Bethan Dennedy

Billy Jones

Julie Roberts

Chris Coppock

Duckham, Kari

Dafydd Thomas

Susannah Allen

James Morgan

Maxine Joseph

Rusna Begum

Huw Marshall

Brenda Davies

Tim Carter

Lucia Balmori

Ioan Bellin

Debra Hanney

Jan Hale

Rhian Stangroom-Teel

Kathryn Hughes

Yamuna Gurung

Megan Thomas

Huw Irranca-Davies (aelod o'r Grŵp)

Sheridan Jones

Helen Gough

Jonathan Evershed

Sharyn E. Williams

Tracey Cooke

Jonathan Morris

Mike O'Hara

Sarah Hart - Rheolwr Hwb CLH NYER

Lois Owens

Shahinoor Alom Shumon

Stephanie Pritchard

Eugene Arokiasamy

Dave Tynan

Sarah M

Natalie Zhivkova

Tracey Alexander

Bethan Webb

Michelle Rowson-Woods

Ryland Doyle

Natalie Sargent

Martin Burger

Ingrid Wilson

Pwyllgor Thornhill

Karen Bonham

Alan Roach

Claire Dodd

Tom Bateman

Angharad Owen

Vikki Howells AS (Cadeirydd)

Leanne Wood (Siaradwr)

Ann Francis (Siaradwr)

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan aelodau'r grŵp, Mark Isherwood AS a Peredur Owen Griffiths MS

Agorwyd y cyfarfod gan Vikki Howells AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol. Soniodd Vikki am y presenoldeb uchel ar gyfer y cyfarfod hwn, a amlygodd y cyfnod hynod anodd y mae pobl yn eu hwynebu a sut mae pobl eisiau dod o hyd i atebion. Mae miliynau'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar fwyd, ac mae tystiolaeth ddiweddar wedi dangos bod llawer o bobl yn torri'n ôl ar wresogi a thrydan. Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gwneud popeth y gallwn ni. Trafododd Vikki y model cydweithredol fel un ateb, a sut mae sefydliadau ar draws gwahanol sectorau wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau ac yn cynhyrchu gwerth cymdeithasol a chymunedol.

Amlinellodd Derek Walker, Prif Weithredwr Cwmpas, yr her i'r sector, a beth arall y gall ei wneud. Dywedodd Derek ein bod wedi dod at ein gilydd yn ystod argyfwng Covid, gyda grwpiau cydweithredol a chymunedol presennol a grwpiau cyd-gymorth newydd yn camu i fyny i chwarae rhan hanfodol yn yr ymateb. Mae angen i ni wneud yr un peth eto - ac mae'r cyfarfod hwn yn nodi'r hyn sydd eisoes yn digwydd ar draws gwahanol sectorau, a sut y gellir datblygu hyn.

Y siaradwr cyntaf oedd Ann Francis, Prif Weithredwr Cambrian Credit Union. Rhoddodd Ann dystiolaeth glir o faint yr heriau sy'n wynebu cymunedau. Bu cynnydd mewn ceisiadau benthyg gan aelodau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes, ond mae fforddiadwyedd yn heriol. Mae gan bobl sawl ffrwd o gredyd, ac mae cynnydd wedi bod mewn cynlluniau "prynu nawr, talu wedyn" ers Covid y gall pobl golli golwg arnyn nhw. Dangosodd eu Harolwg Nadolig Blynyddol y cynnydd yn nifer y bobl sy'n wynebu heriau ariannol - mae 48% yn disgwyl benthyg i dalu biliau, ac fe ddywedodd 760 o'r 780 wnaeth ymateb y bydden nhw'n benthyca er mwyn talu am y Nadolig. Dywedodd 22% y bydden nhw'n defnyddio benthyciwr diwrnod cyflog neu fenthycwyr stepen drws, i fyny o 7% yn 2020.

Mae'r Undebau Credyd yn dod at ei gilydd i gydweithredu a datblygu atebion newydd. Mae ‘Undebau Credyd Cymru’, 8 grŵp o bob rhan o'r wlad, wedi dod ynghyd â strategaeth a chynllun gweithredu a rennir i greu gwerth cymdeithasol, ac maen nhw'n gweithio gyda Cwmpas i ddatblygu cyfansoddiad cadarn newydd sy'n sail i hyn. Mae'r sector yn cydweithio ac yn rhannu gwybodaeth a phrofiad er mwyn datblygu mentrau newydd fel Moneyworks Wales gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU, MaPS, TUC Cymru a chyflogwyr y sector preifat a phrifysgolion ledled Cymru. Dyma un brand ar gyfer arbedion a benthyciadau undebau credyd drwy'r gyflogres. Maent hefyd wedi sefydlu Moneyworks Express Loans fel ymateb costau byw i helpu pobl i gael mynediad i fenthyciadau bach (hyd at £500) yn gyflym ac yn fforddiadwy, ac maent yn sefydlu gwobr Moneyworks Wales, er mwyn annog aelodau newydd i ymuno. Maen nhw'n llogi arbenigwr marchnata digidol, yn gweithio ar addysg ariannol i blant, ac yn datblygu llais unedig clir ar gyfer undebau credyd.

Yna clywsom gan Leanne Wood, cyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru. Mae Leanne yn newydd yn y swydd, a dywedodd ei bod yn foment fawr i ymuno â'r sector. Maen nhw'n heriau mawr, ond hefyd cyfleoedd. Sut gallwn ni fel sector gyfrannu at yr atebion? Dywedodd Leanne bod grwpiau cymunedol yn rhan annatod o'u hardaloedd lleol ar draws Cymru, ac mae eu haelodau'n gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Mae Partneriaeth Ogwen yn datblygu cynlluniau rhannu bwyd, mae Egni Co-op yn datblygu datrysiadau ynni, ac mae eraill yn datblygu clybiau ceir fel atebion i gostau trafnidiaeth. Ar y llaw arall, mae llawer mwy y gellir ei wneud ar raddfa genedlaethol neu bolisi i ddatblygu'r sector hon ar gyfer y dyfodol – yn enwedig drwy gaffael a newidiadau i'r grid cenedlaethol. Mae Leanne eisiau i fwy o bobl gymryd rhan yn y sector ynni/cydweithredol cymunedol, a gall pobl ymuno â'r rhestr bostio, cymryd rhan mewn cynigion cyfranddaliadau cymunedol, cymryd rhan mewn ymgyrchu gwleidyddol a lobïo, a hyd yn oed sefydlu eich grwpiau eich hun. Mae'r grwpiau'n cynllunio ac yn buddsoddi nawr, ac eisiau gweithio gyda'r Ynni Cymru newydd sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru.

Y siaradwr olaf oedd Hannah Morris o Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru. Cyflwynodd Hannah y prosiect hwn, a gyflwynir gan Cwmpas a'i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Cyflwynodd Hannah gyfranddaliadau cymunedol, sy'n fath o ariannu torfol, lle mae'r gymuned yn prynu cyfranddaliadau a gellir eu defnyddio fel menter codi arian i adeiladu cymunedau cryfach, mwy bywiog ac annibynnol. Fe'u defnyddir yn aml i arbed gwasanaethau a mwynderau hanfodol fel cyfleusterau cymunedol, tafarndai, a siopau, neu gallant ariannu sefydliadau newydd, megis ariannu cynlluniau ynni adnewyddadwy a chefnogi prosiectau tyfu bwyd lleol. Mae'r gymuned yn buddsoddi drwy brynu cyfranddaliadau a gwneir penderfyniadau yn ddemocrataidd. Mae elw ar fuddsoddiadau, a all fod cyn lleied â £50, yn gyfyngedig i sicrhau budd cymunedol dros elw ariannol. Mae'r sefydliadau hyn wedi eu gwreiddio yn eu cymunedau ac yn wydn - mae 92% yn dal i fasnachu ar ôl 5 mlynedd, o'i gymharu â 42% ar gyfer cwmnïau preifat. Mae gan y model hwn lawer o fanteision – mae'n rhoi'r gallu i brosiectau godi arian yn gymharol gyflym gyda chyfalaf hyblyg ac amyneddgar y gellir ei ddefnyddio ym mha bynnag ffordd sydd ei angen ar y busnes. Mae'n harneisio cefnogaeth y gymuned, gan arwain at fwy o wytnwch a dealltwriaeth o'r cyd-destun lleol a'r heriau sy'n ei wynebu.

Yn dilyn y cyflwyniadau, bu trafodaeth a chwestiynau ac atebion ymhlith y cyflwynwyr a'r gynulleidfa, a oedd yn drawsdoriad o sawl sector gwahanol, gyda chynrychiolwyr o bob cwr o Gymru. Cafodd pa un a oedd grwpiau cydweithredol yn cael digon o gefnogaeth ei drafod - dywedodd Derek o Cwmpas eu bod wedi cael cefnogaeth wych gan Lywodraeth Cymru, ond bod llawer o'u gwaith yn cael ei ariannu gan yr UE, a bod angen i'r sector fod yn graff ynglŷn â sut y gall barhau i dyfu er mwyn ymateb i'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau. Trafodwyd potensial hydro bach, a dywedodd Leanne Wood fod hyn yn gwneud synnwyr i Gymru, fel y mae prosiectau presennol wedi ei brofi. Trafodwyd cyhoeddiad diweddar prosiect Ynni Cymru, ac mae'r cyfle i ymgysylltu â'r gymuned gael ei ymgorffori yn ei lywodraethiant. Roedd yna gwestiwn ynghylch benthyca arian yn anghyfreithlon, ac fe gadarnhaodd Ann eu bod wedi canfod ei fod yn broblem gynyddol. Ymhlith y pynciau eraill a drafodwyd roedd sut roedd argyfwng costau byw yn effeithio ar ymgysylltu â chyfleoedd ymhlith pobl ifanc, sut y gall cyfranddaliadau cymunedol helpu asedau dan fygythiad oherwydd yr amodau economaidd, a photensial trafnidiaeth gymunedol ac atebion gwresogi cymunedol.

Caeodd Vikki Howells AS y cyfarfod, a gwahoddodd y gynulleidfa i barhau i ymgysylltu â'r Grŵp Trawsbleidiol, wrth iddo barhau i roi llwyfan i fentrau cydweithredol a'r rhai sy'n gweithio i ddatblygu'r model ar draws gwahanol sectorau yng Nghymru.